Gwasanaethau

Rydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddi, cyfieithu, isdeitlo, datblygu gwefannau ac apiau a llawer mwy!

Beth rydyn ni’n ei wneud

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i’ch helpu chi i rannu cynnwys a straeon gwych

Ar Bapur. Ar-lein. Ar Sgrin. Mewn bywydau bob dydd.

Cyhoeddi

Cwmni cyhoeddi cyfeillgar, dwyieithog ac arloesol, sydd wedi ennill gwobrau am ein gwaith.

Rydyn ni’n arbenigo mewn cyhoeddiadau i blant a phobl ifanc, ond hefyd yn cyhoeddi adnoddau i oedolion a dysgwr Cymraeg.

Llyfrau
  • Un o gyhoeddwyr llyfrau mwyaf poblogaidd a mwyaf creadigol Cymru, a chyhoeddwr addysgol mwyaf Cymru.
  • Yn cyhoeddi tua 60 llyfr y flwyddyn i fabanod, plant, pobl ifanc ac oedolion.
  • Llyfrau hamdden ac addysgol yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn ddwyieithog.
  • Llyfrau darllen a nofelau gwreiddiol gan awduron poblogaidd a newydd.
  • Addasiadau Cymraeg a dwyieithog o lyfrau poblogaidd David Walliams, Enid Blyton ac eraill.
  • Llyfrau gwreiddiol i oedolion a dysgwyr.
Gemau a Jig-sos
  • Un o gyhoeddwyr gemau a jig-sos mwyaf Cymru.
  • Cyhoeddwr gemau a jig-sos Cymraeg, Saesneg a dwyieithog.
  • O gemau bwrdd i gemau cardiau, o gemau i’w chwarae ar yr iard neu yn yr ardd i gemau ar-lein ac ar sgrin.
  • O gemau a jig-sos addysgol ar gyfer yr ystafell ddosbarth i gemau a jig-sos sy’n hwyl i’r teulu cyfan.
Apiau
  • Y cyhoeddwr apiau Cymraeg mwyaf ar y blaned.
  • Yn cyhoeddi apiau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog gyda’r ffocws ar hwyl ac addysgu plant a phobl ifanc.
  • Rydyn ni’n cynllunio, yn datblygu, yn dylunio ac yn cyhoeddi’r cyfan yn fewnol.

Apiau a Gemau

Gwefannau

Ffilmiau

Mae Atebol Rhyngweithiol yma i sicrhau bod eich cynnwys a’ch syniadau creadigol yn disgleirio ar-lein ac ar sgrin.

Apiau a Gemau

Atebol yw’r datblygwr apiau Cymraeg mwyaf, ond rydyn ni hefyd yn creu apiau amlieithog.

Cymerwch gip ar yr apiau rydyn ni wedi’u creu!

O’r gwaith cynllunio i’r dylunio a’r cyhoeddi, mae ein tîm creadigol a phrofiadol yn barod i ddod â’ch gemau a’ch apiau yn fyw ar blatfformau gwahanol.

Gwefannau

Eich gwefan yw eich ffenestr siop, eich cyfle cyntaf i wneud argraff ar eich cwsmeriaid mewn byd ar-lein cystadleuol.

 

Mae’n bwysig.

Eisiau gwefan ddwyieithog?

Dim problem.

Gyda thîm eang o gyfieithwyr a golygyddion creadigol wrth law, mae sicrhau eich bod chi’n cyfathrebu yn y ddwy iaith yn haws nag erioed.

Byddwn yn cydweithio’n agos gyda chi i sicrhau bod eich gwefan yn sefyll allan, yn cyfathrebu’n drawiadol ac yn rhannu’ch stori’n glir gyda’r gynulleidfa darged.

O gwmnïau preifat i Brifysgolion a’r Llywodraeth, mae ein tîm datblygu gwefannau yn brofiadol ac yn greadigol.

Cymorth

%

Boddhad cwsmeriaid yw ein nod

o ieithoedd

Julie Randell

“Roedd gweithio gydag Atebol yn bleser pur a byddwn yn eu hargymell i unrhyw un sy’n dymuno cael gwefan newydd wedi’i dylunio. Roedden nhw o help mawr yn ystod pob cam o’r broses, yn darparu gwybodaeth ac yn broffesiynol drwyddi draw, gan gynhyrchu gwefan fodern, hyfryd sy’n cwrdd â’n gofynion yn llwyr.”

Ffilmiau

Ffilm yw’r fformat mwyaf pwerus i gyfathrebu eich stori a hudo eich cynulleidfa.

)" class="et_pb_video_overlay">

Mae ein tîm yn brofiadol ym mhob elfen o’r cynhyrchu, o’r sgriptio, i’r castio, y ffilmio a’r golygu.

Mantais arall o gydweithio â ni yw ein sgiliau isdeitlo. Atebol sy’n gyfrifol am isdeitlo nifer fawr o raglenni teledu S4C er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd rhyngwladol yn gallu mwynhau’r cynnwys. Wrth gydweithio â ni, cewch fynediad i’n tîm a’n hadnoddau cyfieithu sydd o’r radd flaenaf.

Gwasanaethau cyfieithu

Isdeitlo

a iaith

Tîm hynod fedrus

Achrededig

}

25+ mlynedd o brofiad

Mae gan ein tîm eang o gyfieithwyr achrededig, medrus dros 25 mlynedd o brofiad yn y maes. Rydyn ni’n gweithio bob awr o’r dydd gydag amrywiaeth o ddiwydiannau, i gyflwyno eich geiriau ar bapur, ar-lein ac ar sgrin.

O sloganau 3 gair creadigol i drydariadau lleoledig, o ddogfen gyfreithiol miliwn o eiriau i sgript deledu 30 tudalen, heb sôn am y datganiad i’r wasg sydd angen ei anfon yfory… rydyn ni wedi gwneud y cyfan! Rydyn ni hefyd yn falch iawn o fod yn brif ddarparwr gwasanaethau isdeitlo S4C.

Ein gwasanaethau

Cyfieithu

Golygu a
Phrawfddarllen

Isdeitlo

Awduro

Cyfieithu
ar y pryd

Trawsgrifio

Gwasanaethau
Lleoleiddio

Trosleisio

Don’t just take our word

Mike Donovan

Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol

Brushbox Limited

Cododd Atebol y briff cyfieithu yn gyflym iawn, gan gyflawni o fewn terfyn amser tynn iawn er mwyn cefnogi ein hymgyrch farchnata. Gwnaeth y ffordd yr oedden nhw’n addasu eu prosesau i gyd-fynd â’n hanghenion a sicrhau canlyniad eithriadol, o ansawdd uchel argraff fawr arna i.

Simon Ross

Awdur Proffesiynol
a Hyfforddwr

Mae Tîm Cyfieithu Atebol yn gyfeillgar ac yn broffesiynol. Dyfarnwyd Gwobr Arian glodfawr y Gymdeithas Ddaearyddol i’w gwaith cyfieithu ar ein prosiect clyweledol.

Rydyn ni’n ddiolchgar i Atebol am eu cefnogaeth gyda’r fersiwn llyfr llafar o Gyfrinach Nana Crwca David Walliams, a arweiniodd at wobr glodfawr yn Efrog Newydd.

Enghraifft o’r ieithoedd rydyn ni’n eu cyfieithu

… mae yna lawer mwy!

Arabeg

Basgeg

Llydaweg

Catalaneg

Tseiniaidd

Cernyweg

Daneg

Iseldireg / Fflemeg

Saesneg

Ffrangeg

Almaeneg

Gwyddeleg

Eidaleg

Japaneeg

Maleieg

Portiwgaleg

Gaeleg yr Alban

Sgoteg

Sbaeneg

Cymraeg

Golygu a phrawfddarllen

Safon yw ein blaenoriaeth

Ein cangen gyhoeddi yw un o gyhoeddwyr mwyaf bywiog a llwyddiannus Cymru. Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw golygu a phrawfddarllen o ansawdd uchel.

Rydyn ni'n hyblyg

O lyfrau i destun ar gyfer gwefannau, o ddogfennau i ddatganiadau i’r wasg a thestun ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, mae ein tîm cymwysedig, achrededig a phroffesiynol o olygyddion a phrawfddarllenwyr wrth law i sicrhau bod eich geiriau’n cael eu cyfleu’n gywir ac yn glir i’ch cynulleidfa darged.

Beth alla i ei ddisgwyl

Tîm Medrus

Rydyn ni’n dîm mawr o gyfieithwyr a golygyddion amlfedrus, sy’n adnabyddus am ein proffesiynoldeb, ein cywirdeb a’n cysondeb.

Cywirdeb a phrydlondeb

Mae Atebol yn gweithio gydag amrywiaeth o gleientiaid a diwydiannau ledled Cymru a thu hwnt, i sicrhau bod eu geiriau’n cael eu cyflwyno’n gywir ac yn brydlon.

Rheolwr Cyfrif Penodedig

Bydd eich Rheolwr Cyfrif penodedig yn dewis yr aelod gorau o’r tîm i gyd-fynd â’ch arddull olygyddol, eich iaith a’ch cywair.

Arbed amser ac arian i chi

Gallwn hefyd weithio ar feddalwedd greadigol fel InDesign, Photoshop, Illustrator ac eraill er mwyn cyfieithu’n uniongyrchol ar y ffeiliau delwedd, gan arbed amser ac arian i chi.

Ieithoedd rydyn ni'n eu cyfieithu

Mae Atebol yn cynnig gwasanaethau cyfieithu a lleoleiddio mewn dros 20 o ieithoedd.

Siop un Stop

Mae gwasanaeth siop un stop Atebol yn eich galluogi i ddelio ag un cyflenwr ar gyfer eich holl anghenion, o wasanaethau iaith i ddylunio graffig i gyhoeddi. Gwneud eich bywyd yn haws.

Rheoli Ansawdd

Rydych chi’n ymddiried ynom gyda’ch geiriau – mae Atebol yn rhoi’r sgiliau a’r gwasanaeth cwsmeriaid gorau i chi

Wedi'u dewis yn benodol i gyd-fynd â'ch anghenion

Bydd ein Rheolwyr Cyfrif yn dewis yr aelod gorau o’r tîm i gwrdd â’ch anghenion, gan ystyried pwysigrwydd lleoleiddio, barn olygyddol a chywair.

Diogelwch a Chyfrinachedd

Rydyn ni’n trin geiriau pob un o’n cleientiaid â pharch, gan sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n ddiogel ac yn gyfrinachol.

Caiff ein gwaith ei gynnal yn ddiogel gyda chopi wrth gefn yn y Cwmwl, sy’n golygu y gall aelodau ein tîm a’n personél awdurdodedig gael gafael ar y data a’r diweddariadau ar unrhyw ddyfais, mewn unrhyw leoliad ac ar unrhyw adeg.

Gallwn hefyd weithio ar y ffeiliau hyn ar safle ein cleientiaid, os yw’n ychwanegu gwerth.

Wedi'i Gyflwyno Ar Amser

Rydyn ni wedi arfer â therfynau amser tynn, felly os ydym wedi cytuno ar amserlen byddwn yn gweithio bob awr o’r dydd er mwyn gwneud i hyn ddigwydd, gan sicrhau cynnyrch terfynol o’r ansawdd gorau bob amser.

Eich Rheolwr Cyfrif

Darperir Rheolwr Cyfrif penodedig i’n cleientiaid – un pwynt cyswllt i sicrhau lefelau uchel o gyfathrebu ac eglurder. Rydyn ni’n gwerthfawrogi ein cleientiaid ac yn ymfalchïo yn ein perthynas waith gyfeillgar a phroffesiynol.

Gwasanaethau lleoleiddio

Mwy na dim ond geiriau.

Wedi’i leoli yng Nghymru a chyda thîm cwbl ddwyieithog, mae Atebol yn credu’n angerddol mewn lleoleiddio a sicrhau bod eich geiriau’n cael eu cyfleu yn y ffordd sy’n cyd-fynd â’ch cynulleidfa darged yn y ffordd orau bosibl.

Mae pawb wedi clywed y straeon erchyll am lwyfannau cyfieithu ar-lein a’r rhai hynny sy’n cyfieithu gair am air, ond nid felly Atebol! Rydyn ni’n sicrhau ein bod yn paru’ch geiriau’n ofalus gydag aelodau o’n tîm, gan ystyried tafodieithoedd, ffactorau diwylliannol a thraddodiadau.

Ar hyn o bryd rydyn ni’n cynnig ein gwasanaethau cyfieithu a lleoleiddio mewn dros 20 o ieithoedd!

Isdeitlo a thrawsgrifio

Os ydych chi wedi buddsoddi mewn cynnwys ar sgrin, mae'n werth buddsoddi mewn isdeitlo i sicrhau y gall gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ledled y byd.

Mae tîm cwbl ddwyieithog Atebol yn credu’n angerddol mewn hygyrchedd ac yn gwybod pa mor bwysig yw gallu mwynhau cynnwys ar y sgrin yn eich dewis iaith.

Mae gan ein tîm isdeitlo dros 23 mlynedd o brofiad o isdeitlo amrywiaeth o raglenni teledu, ffilmiau, ffilmiau corfforaethol a mwy.

Rydyn ni’n falch iawn o fod yn brif ddarparwr gwasanaethau isdeitlo S4C. Mae ein tîm yn gweithio bob awr o’r dydd a’r nos i sicrhau y gall cynulleidfaoedd rhyngwladol fwynhau rhaglenni Cymraeg S4C gydag isdeitlau Cymraeg a Saesneg fel sy’n ofynnol gan y gwyliwr.

Ein meddalwedd gyfieithu

Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn defnyddio’r feddalwedd gyfieithu ddiweddaraf i sicrhau ein bod yn olrhain ac yn cyflwyno gwaith ein cleientiaid yn unol â blaenoriaeth a therfynau amser.

TransFLOW
Mae ein meddalwedd bwrpasol yn rheoli llif gwaith yr holl ddogfennau a phrosiectau sydd i’w cyfieithu. Gallwn weld cynnydd pob tasg yn sydyn gan sicrhau ein bod yn bodloni eich terfynau amser chi.

Rydych chi mewn cwmni diogel…

Ymddiried yn ein gwaith

“Bob amser ar gael, bob amser yn barod, a bob amser yn wych.”

Rydyn ni bob amser yn mynd yn syth at Atebol ar gyfer gwaith cyfieithu. Nid yn unig oherwydd eu gwaith rhagorol a’u manylder, ond hefyd gan eu bod bob amser yn barod i helpu – beth bynnag fo’r dyddiad cau rydyn ni’n ei roi iddyn nhw! Bob amser ar gael, bob amser yn barod, a bob amser yn wych.

Roedd yn bleser gweithio gyda chwmni Atebol i greu adnoddau ar gyfer oedolion sy’n dysgu’r Gymraeg. Mae’r staff bob amser yn broffesiynol ac yn ymateb yn brydlon i negeseuon. Cwblhawyd ein gwaith ni i safon uchel iawn ac yn brydlon.

Rydyn yn hapus iawn gyda’r gwasanaeth... gyda gwaith o safon uchel iawn yn dychwelyd ar amser, neu, yn aml, cyn y dyddiad dychwelyd.

Mae’r swyddfa yn Yr Egin yn gyfuniad braf o lolfa a ffatri, a’r tîm yn groesawgar a gweithgar. Diolch am y gwaith proffesiynol ac am fod yn barod i fentro.

Cysylltwch i weld

sut gallwn ni helpu!