
Gyda chynifer o sianelau a ffyrdd o gyrraedd eich cynulleidfa ar gael, mae angen set o sgiliau sydd mor eang ag yr ydynt yn ddwfn. Mae ein tîm amlgyfryngol creadigol yn cynnwys awduron, dylunwyr, golygyddion a rhaglenwyr cyfrifiaduron. Ar y cyd, maen nhw’n datblygu cynnwys sy’n adlewyrchu eich gofynion penodol ar gyfer apiau a gwefannau ar draws pob llwyfan. Gall y tîm baratoi cynnwys fideo a ffilm yn ogystal. Ac afraid dweud eu bod nhw’n brofiadol wrth weithio’n ddwyieithog.
Cyhoeddi
Ni yw un o brif gyhoeddwyr Cymru ym maes darllen hamdden ac addysg. A dweud y gwir, mae ein detholiad rhagorol o gynnwys o safon uchel yn ymestyn o’r blynyddoedd cynnar hyd at Lefel A a thu hwnt. Mae ein teitlau’n apelio at bawb, ac maent ar gael ar ffurf argraffedig neu ddigidol. Wrth gwrs, mae gennym y sgiliau arbenigol yn ogystal i baratoi cynnwys blaengar ar gyfer plant, rhieni, ac oedolion mewn cyd-destun dwyieithog. Chwilio am gyhoeddwr ar gyfer eich gwaith gwreiddiol? Gallwn ni eich helpu i olygu, dylunio, argraffu, dosbarthu a marchnata’r gwaith. Yn ogystal rydym ni’n gweithio mewn fformatau mor amrywiol â phosteri, deunyddiau marchnata a chardiau busnes.
Ffilm
Ffilm yw un o’r ffyrdd mwyaf cofiadwy o gyfathrebu eich stori, eich cynnwys neu neges i’ch cynulleidfa. Rydym ni ar gael i’ch cefnogi ar hyd pob cam o’r broses greu ffilm, o sgriptio, i ganfod lleoliadau, i gastio, ffilmio a golygu’r gwaith yn derfynol.
Digidol – Atebol Rhyngweithiol
Beth yw eich gofynion cyfryngau digidol? Gallwn ni helpu, beth bynnag ydynt – o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i flogiau, recordio sain a llawer mwy. Mae ein tîm Atebol Rhyngweithiol profiadol, sy’n meddu ar gymwysterau rhagorol, wrth law i gynnig cymorth.
Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaeth Media. Cyfryngau, cysylltwch â ni.
With so many channels and ways to reach your audience, you need a set of skills as broad as they are deep. Our creative multi-media team includes authors, designers, editors, and computer programmers. Together, they develop content that reflects your specific requirements for apps and websites across all platforms. The team can also prepare video and film content. And it goes without question they’re experienced working bilingually.
Publishing
We’re one of Wales’ leading publishers in the field of leisure reading and education. In fact, our fantastic range of high quality content extends from early years through to A-level and beyond. Our titles appeal to everyone, and come both in print and digital formats. And of course, we have the specialist skills to prepare innovative content for children, parents and adults within a bilingual setting. Looking for a publisher for your original work? We can help you edit, design, print, distribute and market it. Plus we work in formats as varied as posters, merchandising and business cards.
Film
Film is one of the most memorable ways of communicating your story, content or your message to your audience. We’re here to support every step of the filmmaking process from scripting, to location scouting to casting to filming and editing the final cut.
Digital – Atebol Interactive
What digital media requirements do you have? We can help, whatever they are – from social media platforms to blogs, to sound recording and much more. Our highly qualified and experienced Atebol Interactive team is on hand to help.
For more information about our Media. Cyfryngau services, contact us.